Amdanom ni

Gwybodaeth am Brifysgol Caerdydd

cardiff-uni.svg

A hithau wedi’i sefydlu ym 1883, mae gan Brifysgol Caerdydd enw da yn rhyngwladol am ragoriaeth mewn addysgu ac ymchwil, a hynny ar sail hanes o wasanaeth a chyflawniad. Mae ein haelodaeth o Grŵp Russell o 24 prifysgol ymchwil-ddwys yn cadarnhau ein lle fel un o brif sefydliadau academaidd y DU. Drwy ein haddysgu a’n hymchwil o safon fyd-eang, rydym yn ymdrechu i greu a chyfrannu at economi ddeinamig a ffyniannus, cymunedau cryfach a dyfodol gwell i Gaerdydd, Cymru a’r byd ehangach. Uchelgeisiol ac arloesol, rydym wedi ymrwymo i greu a chynnal amgylchedd dysgu croesawgar, cynhwysol, hygyrch a chyfeillgar i’n holl fyfyrwyr. Chwilfrydedd a dychymyg sy’n gyrru ein staff academaidd. Mae llawer ohonynt yn arweinwyr yn eu maes ac maent yn creu amgylchedd ysgogol i chi ddysgu ynddo.

Mae’r Brifysgol wedi’i rhannu’n 24 ysgol academaidd, ar draws dau gampws sy’n ffynnu: Ychydig funudau ar droed o ganol y ddinas, gellir dod o hyd i’r rhan fwyaf o’n hysgolion academaidd ar gampws Parc Cathays. Mae’r rhain ymhlith yr adeiladau trawiadol, y parciau a’r rhodfeydd coediog llydan sy’n ffurfio canolfan ddinesig ysblennydd Caerdydd.

Gwefan

 

 

cardiff_met.png       Ruler.svg

Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn darparu graddau a gydnabyddir yn broffesiynol, ynghyd ag ymchwil ac arloesedd effeithiol, mewn celf a dylunio, busnes a rheolaeth, addysg a gwasanaethau cyhoeddus, chwaraeon a gwyddorau iechyd, a thechnolegau a pheirianneg.

Fel ysgogydd addysg a thrawsnewid cymdeithasol, rydym yn gweithio’n bwrpasol i sicrhau bod pob myfyriwr yn gallu gwireddu ei botensial llawn i’w genhedlaeth ei hun a chenedlaethau’r dyfodol. Rydym yn gatalydd ar gyfer arloesi a’r economi, ac yn gyfrannwr allweddol at dwf cynhwysol a chynaliadwy yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.

Yn gymuned gydweithredol a thosturiol, mae ein gwerthoedd o greadigrwydd, amrywiaeth, rhyddid ac arloesedd yn cael eu byw trwy ymddygiad ein staff a’n myfyrwyr; trwy ein harweinyddiaeth, ein hymddiriedaeth, ein dewrder a’n hatebolrwydd i’n gilydd, ac i’n partneriaid.

Gwefan

Calculator.svg
Pin.svg
Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×