Athrawon

Cursor.svg
Pin.svg
Lightbulb.svg
Line (2).svg

Croeso Athro…

Mae ein prosiect wedi'i gynllunio i hysbysu myfyrwyr am eu dewisiadau a'r camau nesaf mewn addysg a helpu athrawon i gefnogi ac arwain eu myfyrwyr am addysg uwch. Fel athro, gallwch archebu ein sgyrsiau, ymweld â gwefannau ein prifysgolion, lawrlwytho pecynnau adnoddau, a gweld ein dolenni defnyddiol.

Gallwch hefyd weld ein tudalennau Rhieni a Myfyrwyr i weld sut rydym yn cefnogi myfyrwyr a rhieni.  

 

Rhieni  Myfyriwr     Ruler.svg

Lawr lwythwch ein pecynnau adnoddau

Beth yw AU?
Archebwch yma

Mae'r pwnc hwn yn trin a thrafod y llwybrau gwahanol sydd ar gael i fyfyrwyr, manteision mynd i'r brifysgol, mynd i'r afael â chamsyniadau ynglŷn â’r brifysgol, yn ogystal â thrin a thrafod yr hyn sydd ar gael iddyn nhw. Bydd y gweithdy yn caniatáu i fyfyrwyr ddylunio eu gradd eu hunain, archwilio pwysigrwydd gofynion mynediad, cynnwys y cwrs a swyddi yn y dyfodol.

Gwneud y dewisiadau cywir
Archebwch yma

Rydym yn cynnig dwy sgwrs yn archwilio opsiynau TGAU ac yn archwilio ai 6ed dosbarth neu Goleg yw’r llwybr cywir i’ch myfyrwyr. Edrychwn ar pam mae’r penderfyniadau hynny’n bwysig a sut y gallai gwahanol ddewisiadau arwain at lwybrau lluosog. Bydd y gweithdy yn caniatáu i’r myfyrwyr ystyried eu gyrfaoedd yn y dyfodol, gan ymchwilio i ba raddau, cymwysterau, a phrofiadau sydd eu hangen ar gyfer gwahanol broffesiynau.

Sgiliau Astudio ac Adolygu
Archebwch yma

Mae'r pwnc hwn yn edrych ar enghreifftiau o sesiynau astudio da a gwael, ffyrdd gwahanol o astudio gan gynnwys arddulliau dysgu a sut y gall eich myfyrwyr fanteisio ar astudio i’r eithaf. Bydd y gweithdy yn galluogi myfyrwyr i ddechrau adnabod arferion astudio iach a sut i greu amserlen astudio.

Bywyd Myfyrwyr
Archebwch yma

Mae ein pwnc bywyd myfyriwr wedi'i gynllunio i gyflwyno agweddau ar y brifysgol a pham mae cymdeithasu, cymdeithasau a gwneud ffrindiau yr un mor bwysig ag astudio. Bydd y myfyrwyr yn gwrando ar farn ein myfyrwyr ac yn cymryd rhan mewn sgyrsiau am annibyniaeth, cyfleoedd cymdeithasol, a chyllid myfyrwyr.

Talu am y Brifysgol / Chyllidebu
Archebwch yma

Mae'r pwnc hwn yn edrych ar y gwahanol ffyrdd o dalu am y brifysgol ac mae'n trafod y gwahanol ysgoloriaethau, grantiau a chyllid arall sydd ar gael. Y nod yw ei gwneud yn glir i bob myfyriwr y gall prifysgol fod yn fforddiadwy o ganlyniad i’r gwahanol ddulliau ariannu.  

Mae'r gweithdy'n canolbwyntio mwy ar ddysgu sut i gyllidebu a phwysigrwydd hyn.  

Cyflwyniad i Bynciau Chwaraeon yn y Brifysgol
Archebwch yma

Dyma'r pwnc perffaith i fyfyrwyr sy'n mwynhau chwaraeon a/neu wyddoniaeth. Ei nod yw dangos i ddisgyblion bod ystod enfawr o raddau sy’n gysylltiedig â byd chwaraeon y gallwch eu hastudio yn y DU, ac mae’r gofynion o ran ystod y graddau ar gyfer mynediad yn hygyrch iawn.

Adeiladu Cyfnerthed a Rheoli eich Iechyd Meddwl yn y Brifysgol
Archebwch yma

Mae'r pwnc hwn wedi'i gynllunio er mwyn roi gwybod i ddisgyblion am ffyrdd i fod yn fwy cyfnerthiadwy er mwyn reoli eu hiechyd meddwl yn ystod cyfnodau o straen yn yr ysgol, coleg, prifysgol neu yn eu bywydau gwaith. Mae hwn yn sgwrs / gweithdy gwych i fyfyrwyr sy'n gwneud eu TGAU, neu ar gyfer grwpiau llai sy'n cael trafferth gyda'u hiechyd meddwl. E-bostiwch ni os hoffech gael fersiwn wedi'i theilwra o'r sgwrs / gweithdy hwn.  . - heroadshow@cardiff.ac.uk

Arrow.svg
Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×