Gallwn ni gynnig teithiau o gwmpas campws Prifysgol Metropolitan Caerdydd (Campws Cyncoed) a Phrifysgol Caerdydd i fyfyrwyr ym mlynyddoedd 9, 10 ac 11. Nod y teithiau o gwmpas y campws yw cyflwyno myfyrwyr i fywyd prifysgol a dangos iddyn nhw yr hyn i’w ddisgwyl yn y brifysgol.
Bydd y teithiau hefyd yn cynnwys helfa sborion gyda gwobr i'r tîm buddugol! Yn rhan o’r helfa bydd rhaid i fyfyrwyr wrando ar eu tywyswyr a chadw llygad am rai o nodweddion penodol y brifysgol.
Bydd y teithiau’n dod i ben gyda chyfle i ofyn unrhyw gwestiynau i fyfyrwyr prifysgol presennol am fywyd yn y brifysgol.
Update your browser to view this website correctly. Update my browser now