Datganiad hygyrchedd ar gyfer cardiffroadshow.education
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i cardiffroadshow.education. Mae'r wefan hon yn cael ei chynnal gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd a Phrifysgol Caerdydd. Rydym am i gymaint o bobl â phosibl allu defnyddio’r wefan hon. Mae hynny’n golygu y dylech allu:
Rydym yn gwybod nad yw’r wefan hon yn gwbl hygyrch. Er enghraifft:
Beth i’w wneud os na fydd rhannau o’r wefan hon yn hygyrch i chi
Os bydd angen y wybodaeth sydd ar y wefan hon arnoch mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni drwy cardiffroadshow.education.
Byddwn yn ystyried eich cais ac yn ymateb iddo ymhen pum diwrnod gwaith.
Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd wrth ddefnyddio’r wefan hon
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os cewch unrhyw broblemau nad ydynt wedi’u rhestru ar y dudalen hon, neu os ydych yn credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â ni:
Prifysgol Metropolitan Caerdydd accessibility@cardiffmet.ac.uk
Prifysgol Caerdydd assuranceservices@caerdydd.ac.uk
Gweithdrefn orfodi
Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol sy’n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Ffonau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych yn fodlon ar sut rydym wedi ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon
Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd a Phrifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i wneud y wefan hon yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Ffonau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Mae'r wefan hon yn cydymffurfio â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe, fersiwn 2.1.
Update your browser to view this website correctly. Update my browser now