Mae'r hysbysiad cwcis hwn yn berthnasol i wefan Sioe Deithiol Addysg Uwch Caerdydd yn unig (www.cardiffroadshow.education). I gael gwybodaeth gyffredinol am ddiogelu data a hysbysiadau preifatrwydd ar gyfer ymholwyr, myfyrwyr a staff, gweler ein tudalennau ar ddiogelu data. Mae gwefan Sioe Deithiol Addysg Uwch Caerdydd yn defnyddio cwcis i wahaniaethu rhyngoch chi a defnyddwyr eraill gan drydydd partïon ar ein rhan.
Cwcis hanfodol
Cwcis hanfodol yw’r cwcis y mae’n rhaid eu gosod ar eich dyfais er mwyn i'n gwefan weithio. Os byddwch yn rhwystro pob cwci, mae’n bosibl na fydd y wefan yn gweithio’n iawn.
Cwcis cydbwyso llwyth
Rydym yn defnyddio sawl gweinydd am fod nifer fawr o bobl yn ymweld â’n gwefan. Mae cwcis o’r fath yn cael eu gosod ar eich dyfais er mwyn i’r wefan allu cofio pa weinydd sydd wedi’i neilltuo i chi.
Cwcis sesiwn
‘Sesiwn’ yw’r enw a roddir i’r hyn rydych yn ei wneud pan fyddwch yn ymweld â’n gwefan. Mae cwcis o’r fath yn cael eu gosod ar eich dyfais er mwyn i’r wefan allu cofio gwybodaeth rydych wedi’i rhoi i ni wrth i chi symud o dudalen i dudalen. Heb gwcis sesiwn, ni fyddai ffurflenni aml-dudalen neu gwisiau (er enghraifft) yn gweithio.
Cwcis anhanfodol
Mae ein gwefan hefyd yn gosod cwcis anhanfodol. Maent yn ddefnyddiol iawn naill ai ar gyfer ymwelwyr â'r wefan neu'r Brifysgol ei hun.
Ystadegau defnyddio
Wrth i chi ddefnyddio ein gwefan, bydd data am eich ymweliad yn cael ei anfon at Google Analytics er mwyn i ni gael gwybod faint o bobl sy'n ei defnyddio.
Bydd Google Analytics yn gosod cwcis ar eich dyfais er mwyn iddo allu cysylltu ymweliadau lluosog â thudalennau penodol â’r un ymwelydd. Gall hefyd gasglu gwybodaeth am ddemograffeg a diddordebau gan y cwci DoubleClick – cwci hysbysebu trydydd parti – os bydd wedi'i osod ar eich dyfais.
Cynnwys o safleoedd eraill
Ar dudalennau sy'n cynnwys fideos YouTube, mae Google yn gosod cwcis er mwyn iddo allu dangos hysbysebion sy'n fwy perthnasol i chi. Gallwch optio allan drwy Google Ad Settings.
Rheoli a rhwystro cwcis
Gallwch newid gosodiadau eich porwr i reoli cwcis unigol neu rwystro cwcis yn gyfan gwbl. Mae cyfarwyddiadau ar gyfer porwyr poblogaidd isod:
Newidiadau i'r hysbysiad cwcis hwn
Rydym yn cadw'r hawl i newid y wybodaeth hon heb rybudd.
Update your browser to view this website correctly. Update my browser now