Yn Sioe Deithio AU Caerdydd (Partneriaeth ar y cyd rhwng Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd), sydd ar gael drwy ymweld â gwefan y sioe deithio, un o'n prif flaenoriaethau yw preifatrwydd ein hymwelwyr. Mae'r Polisi Preifatrwydd hwn yn cynnwys mathau o wybodaeth sy'n cael eu casglu a'u cofnodi gan Sioe Deithio AU Caerdydd ac yn nodi sut rydyn ni’n eu defnyddio.
Os oes gennych chi ragor o gwestiynau neu os bydd angen rhagor o wybodaeth arnoch chi am ein Polisi Preifatrwydd, cysylltwch â ni ar bob cyfrif: heroadshow@caerdydd.ac.uk
Mae'r Polisi Preifatrwydd hwn ond yn berthnasol i'n gweithgareddau ar-lein ac mae'n ddilys i ymwelwyr â'n gwefan o ran yr wybodaeth y maen nhw’n ei rhannu a/neu’n ei chasglu yn Sioe Deithio AU Caerdydd. Nid yw'r polisi hwn yn berthnasol i unrhyw wybodaeth a gesglir oddi ar-lein neu ar sianeli eraill heblaw'r wefan hon.
Cydsyniad
Drwy ddefnyddio ein gwefan, rydych chi drwy hyn yn cydsynio i'n Polisi Preifatrwydd ac yn cytuno ar ei thelerau.
Gwybodaeth rydyn ni’n ei chasglu
Bydd yr wybodaeth bersonol y gofynnir ichi ei rhoi, yn ogystal â'r rhesymau dros ei rhoi, yn cael ei hegluro ichi pan fyddwn ni’n gofyn ichi roi eich gwybodaeth bersonol.
Hwyrach y bydd ein gwefan yn cynnwys mathau gwahanol o ffurflen ar-lein. Dim ond y data a gesglir drwy ffurflenni ar-lein a gaiff ei ddefnyddio at y diben a ddisgrifir wrth ei gasglu, oni bai eich bod hefyd yn rhoi eich caniatâd i’w ddefnyddio at ddibenion diffiniedig eraill.
Os byddwch chi’n cysylltu â ni'n uniongyrchol, efallai y byddwn ni’n derbyn gwybodaeth ychwanegol amdanoch chi megis eich enw, eich cyfeiriad ebost, eich rhif ffôn, cynnwys y neges a/neu atodiadau yr anfonwch chi atom, ynghyd ag unrhyw wybodaeth arall y dewiswch chi ei rhoi.
Os byddwch chi’n cysylltu â ni drwy'r wefan hon, efallai y byddwn ni’n gofyn am eich manylion cyswllt, gan gynnwys gwybodaeth megis eich enw, eich cyfeiriad, eich cyfeiriad ebost a’ch rhif ffôn.
Sylwer, gan mai bartneriaeth ar y cyd yw’r sioe deithio addysg uwch, byddwn ni’n rhannu'r wybodaeth a nodir uchod â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd.
Sut rydyn ni’n defnyddio eich gwybodaeth
Rydyn ni’n defnyddio'r wybodaeth a gasglwn mewn nifer o ffyrdd, gan gynnwys:
Fideos ar YouTube
Ar dudalennau sy’n cynnwys fideos YouTube, caiff data am y fideos y byddwch chi’n eu gwylio ei anfon i Google a’i gadw’n unol â pholisi preifatrwydd Google. Hwyrach y bydd Google yn ei ddefnyddio i bersonoli hysbysebion ar eich cyfer. Gallwch chi ddewis peidio â bod yn rhan o hyn drwy fynd i Osodiadau Google Ads a gwneud cais am gael gweld neu ddileu eich data drwy eich Cyfrif Google.
Sain SoundCloud
Pan fyddwn ni’n defnyddio sain wedi’i mewnblannu, caiff gwybodaeth am y dudalen y gwnaethoch chi ymweld â hi a’r hyn rydych chi’n gwrando arno ei anfon at SoundCloud a’i gadw’n unol â pholisi preifatrwydd SoundCloud. Gallwch chi wneud cais am gael gweld eich data neu ofyn iddo gael ei ddileu drwy Ganolfan Gymorth SoundCloud.
Ffrydiau Twitter
Ar dudalennau sydd â chynnwys Twitter wedi’i fewnblannu ynddyn nhw, rydyn ni’n cyfarwyddo Twitter i beidio â chofnodi unrhyw wybodaeth amdanoch chi. Gallwch chi optio allan o bob math o olrhain gan Twitter ar dudalen gosodiadau Personoli Twitter.
Lleoliad bras
Mae ein gwefan yn canfod y wlad rydych chi ynddi yn seiliedig ar eich cyfeiriad IP. Mae hyn yn caniatáu inni benderfynu ble mae ein hymwelwyr a chael gwybodaeth ddefnyddiol a phenodol i'w dadansoddi.
Cofnodion gweinyddion
Mae ein gweinyddion gwe yn cofnodi ceisiadau am dudalennau gwe (URLs), ond ni chaiff unrhyw ddata personol ei gasglu na’i gadw.
Peidiwch ag olrhain
Ar hyn o bryd, nid yw ein gwefan yn cefnogi gosodiad y porwr “Peidiwch ag olrhain”.
Newidiadau yn yr hysbysiad hwn o ran preifatrwydd
Rydyn ni’n cadw'r hawl i newid yr wybodaeth hon heb rybudd.
Update your browser to view this website correctly. Update my browser now