Mae'r pwnc hwn yn trin a thrafod y llwybrau gwahanol sydd ar gael i fyfyrwyr, manteision mynd i'r brifysgol, mynd i'r afael â chamsyniadau ynglŷn â’r brifysgol, yn ogystal â thrin a thrafod yr hyn sydd ar gael iddyn nhw. Bydd y gweithdy yn caniatáu i fyfyrwyr ddylunio eu gradd eu hunain, archwilio pwysigrwydd gofynion mynediad, cynnwys y cwrs a swyddi yn y dyfodol.
Rydym yn cynnig dwy sgwrs yn archwilio opsiynau TGAU ac yn archwilio ai 6ed dosbarth neu Goleg yw’r llwybr cywir i’ch myfyrwyr. Edrychwn ar pam mae’r penderfyniadau hynny’n bwysig a sut y gallai gwahanol ddewisiadau arwain at lwybrau lluosog. Bydd y gweithdy yn caniatáu i’r myfyrwyr ystyried eu gyrfaoedd yn y dyfodol, gan ymchwilio i ba raddau, cymwysterau, a phrofiadau sydd eu hangen ar gyfer gwahanol broffesiynau.
Mae'r pwnc hwn yn edrych ar enghreifftiau o sesiynau astudio da a gwael, ffyrdd gwahanol o astudio gan gynnwys arddulliau dysgu a sut y gall eich myfyrwyr fanteisio ar astudio i’r eithaf. Bydd y gweithdy yn galluogi myfyrwyr i ddechrau adnabod arferion astudio iach a sut i greu amserlen astudio.
Mae ein pwnc bywyd myfyriwr wedi'i gynllunio i gyflwyno agweddau ar y brifysgol a pham mae cymdeithasu, cymdeithasau a gwneud ffrindiau yr un mor bwysig ag astudio. Bydd y myfyrwyr yn gwrando ar farn ein myfyrwyr ac yn cymryd rhan mewn sgyrsiau am annibyniaeth, cyfleoedd cymdeithasol, a chyllid myfyrwyr.
Mae'r gweithdy a/neu'r cyflwyniad hwn yn edrych ar gynllunio a chyllidebu ar gyfer bywyd yn y brifysgol, a bydd y pwyslais ar wariant yn wythnosol ac yn fisol. Mae hefyd yn ystyried y ffyrdd gwahanol y gellir ariannu mynd i’r brifysgol.
Dyma'r pwnc perffaith i fyfyrwyr sy'n mwynhau chwaraeon a/neu wyddoniaeth. Ei nod yw dangos i ddisgyblion bod ystod enfawr o raddau sy’n gysylltiedig â byd chwaraeon y gallwch eu hastudio yn y DU, ac mae’r gofynion o ran ystod y graddau ar gyfer mynediad yn hygyrch iawn.
Mae'r pwnc hwn wedi'i gynllunio er mwyn roi gwybod i ddisgyblion am ffyrdd i fod yn fwy gwydn er mwyn reoli eu hiechyd meddwl yn ystod cyfnodau o straen yn yr ysgol, coleg, prifysgol neu yn eu bywydau gwaith.
Mae hwn yn sgwrs / gweithdy gwych i fyfyrwyr sy'n gwneud eu TGAU, neu ar gyfer grwpiau llai sy'n cael trafferth gyda'u hiechyd meddwl. E-bostiwch ni os hoffech gael fersiwn wedi'i theilwra o'r sgwrs / gweithdy hwn. - heroadshow@cardiff.ac.uk
Update your browser to view this website correctly. Update my browser now