Mae Diwrnod Ysbrydoliaeth y Brifysgol yn gyfle gwych i fyfyrwyr rhwng 13 ac 16 oed brofi sut beth yw mynd i'r brifysgol mewn gwirionedd. Mae'n ffordd wych iddyn nhw ddysgu a fyddai’r brifysgol yn iawn iddyn nhw, ac am agweddau ar y brifysgol sydd efallai yn newydd iddyn nhw.
Eleni, mae Diwrnodau Ysbrydoliaeth y Brifysgol yn cael eu trefnu gyda Phrifysgol Metropolitan Caerdydd felly byddan nhw’n cael eu cynnal ar eu campws nhw.
Byddwn ni’n cynnal Sioeau Teithiol AU (Addysg Uwch) Diwrnodau Ysbrydoliaeth y Brifysgol ar gyfer disgyblion blwyddyn 11 ar 20 a 21 Rhagfyr 2023.
Yna, byddwn ni’n eu cynnal ar gyfer blynyddoedd 9 a 10 rhwng 1 a 5 Gorffennaf 2024.
Yn ystod y Sioe Deithiol AU bydd myfyrwyr Diwrnod Ysbrydoliaeth y Brifysgol yn cael eu croesawu i'r campws, yn mynd i un ddarlith fer ar bwnc y mae ganddyn nhw ddiddordeb ynddo ac yna darlith fer arall ar rywbeth newydd iddyn nhw. Mae hyn er mwyn dangos iddyn nhw pa opsiynau gradd eraill sy'n bodoli. Gall myfyrwyr fwyta ar y campws neu ddod â phecyn bwyd gyda nhw, ac yna bydd gemau a seremoni raddio fach yn cael ei chynnal ar ddiwedd y dydd (gall y digwyddiadau hyn newid).
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn cadw lle ar un o’r digwyddiadau hyn, ebostiwch heroadshow@caerdiff.ac.uk gan ddefnyddio’r templed canlynol i amlinellu’ch cais:
Update your browser to view this website correctly. Update my browser now